top of page

CERDDORIAETH

Casgliad arall o ddadansoddiadau newydd o hen ganeuon ac alawon traddodiadol, gydag ambell un a gyfansoddwyd gennym ni'n hunain, yw ein halbwm diwethaf, Milwr : Soldier. Mae rhai o'r caneuon yn ymwneud â rhyfel, bywyd y milwyr a phrofiadau'r rhai a adawyd ar ôl, ond dim ond caneuon 'rydyn ni wedi mwynhau eu canu ers peth amser yw'r rhan fwyaf o'r albwm. 'Roedden ni wrth ein boddau yn ei recordio, a gobeithiwn yn fawr y byddwch chi'n mwynhau gwrando arno!

Sut mae prynu crynoddisgiau a chopiau digidol? Scroliwch i lawr am bob un o'n tri albwm, gyda manylion am sut i archebu ... a rhagflas o'r albwm newydd ... ac ambell i fideo hefyd ...

Diolch i Songs From The Shed (Clevedon) a Reuben Knutson a myfyrwyr Cyfryngau Coleg Ceredigion am y clipiau ffilm

CRYNODDISGIAU A NWYDDAU AR WERTH

'Rydyn ni wedi cyhoeddi tri albwm hyd yn hyn:

Milwr : Soldier (Tachwedd 2019) - CDd £10 (PayPal). Scroliwch i fyny am gopi digidol .

 

Teiliwr : Tailor (Hydref 2017) - CDd allan o stoc ar hyn o bryd. Scroliwch i lawr am gopi digidol o'r albwm neu'r traciau unigol . Mae'r albwm yma ar gael ar Spotify hefyd.

​​Tincer (Medi 2016) - CDd dim ond £5 erbyn hyn (PayPal). Scroliwch i lawr am gopi digidol o'r albwm neu'r traciau unigol.

*Os ydy hi'n well gennych chi beidio â defnyddio PayPal, cysylltwch â ni trwy ebost, os gwelwch yn dda.

 

Cerddoriaeth draddodiadol gyda naws gwahanol o Gymru a thu hwnt

Traditional music with a difference from Wales and beyond

bottom of page